Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 7 Hydref
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3454
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 4 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 12 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 9 a 12 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.03
NDM5838 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5839 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model cadw pwerau;
3. Yn gwrthod unrhyw fodel cadw pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y trefniadau presennol;
4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a
5. Yn galw am
ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â
chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr
eitem am 16.42
NDM5840 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y gall problemau iechyd meddwl, heb gymorth a thriniaeth briodol, gael effaith ddinistriol ar ansawdd bywyd person, gan effeithio ar ei waith, ei fywyd cartref a'i berthnasau;
2. Yn croesawu diwrnod iechyd meddwl y byd, Amser i Newid Cymru, Gyda’n Gilydd Nawr! ac ymgyrchoedd eraill sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma a gwahaniaethu;
3. Yn credu bod llawer i'w wneud o hyd er mwyn darparu gwell gofal a chymorth i bobl o bob oedran sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi blaenoriaeth gyfartal i iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn y gyfraith i helpu i yrru newid diwylliannol mewn agweddau;
b) sicrhau bod y gyfran o gyllid ar gyfer iechyd meddwl o fewn cyllideb gyffredinol GIG Cymru yn gyson â'r baich clefydau, gan adlewyrchu maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol;
c) cyflwyno safonau amseroedd aros newydd ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol;
d) gwella hyfforddiant iechyd meddwl i athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr er mwyn rhoi'r sgiliau iddynt adnabod a chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl; ac
e) cyflwyno set
graidd o ddata iechyd meddwl, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i
ddefnyddwyr gwasanaethau, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau
ar flaenoriaethau gweithredu a sicrhau bod adnoddau yn cael eu
dyrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.42
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM5837 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Dyfodol adeiladau capeli yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.07
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Hydref 2015